Wele goelcerth wen yn fflamio
A thafodau tân yn bloeddio
Ar i′r dewrion ddod i daro,
Unwaith eto′n un.
Gan fanllefau’r tywysogion,
Llais gelynion, trwst arfogion,
A charlamiad y marchogion,
Craig ar graig a grŷn
Arfon byth ni orfydd,
Cenir yn dragywydd;
Cymru fydd fel Cymru fu,
Yn glodus ym mysg gwledydd.
‘Ngwyn oleuni′r goelcerth acw,
Tros wefusau Cymro′n marw,
Annibyniaeth sydd yn galw,
Am ei dewraf dyn.
Yr hyn sy’n drawiadol am Gwyr Harlech, neu ‘Men of Harlech’, yw’r nifer o fersiynnau gwahanol sydd yn bodoli. Er bod bron pawb yng Nghymru yn adnabod y dôn, mae yna amrywiaeth eang yn y geiriau sy’n cael eu canu. Eto, yr un neges sy’n cael ei gyfleu beth bynnag y geiriau, sef penderfyniad ein cenedl i gadw ac amddiffyn ein hunaniaeth. Mae’r gân yn sôn am y gwŷr dewr a wnaeth amddiffyn castell Harlech yn ystod Rhyfel y Rosynnod yn 1460 o dan arweinyddiaeth Dafydd ap Ieuan. Credir eu bod wedi amddiffyn y gastell am saith mlynedd cyn gorfod ildio oherwydd newyn.
Tu hwnt i Gymru mae’r gân wedi dod yn adnabyddus o ganlyniad i’r ffilm Zulu (wedi seilio ar stori go iawn), a oedd yn traethu stori brwydr Rorke’s Drift. Sonia’r ffilm am dîm bach o filwyr, yn cynnwys rhai o Dde Cymru, yn ymdrechu’n frwd i wrthsefyll byddin ‘Zulu’ enfawr yn Ne’r Affrig. Erbyn hyn, mae ‘Gwyr Harlech’ yn enwog dros y byd, ac yn cael ei ddefnyddio mewn sawl cyd-destun; er enghraifft, mae’n gân swyddogol ar Ysgol Dechnegol Sydney yn Awstralia, ac ar Ysgol Uwchradd Rhanbarthol Tantasqua Massachusetts, yr Unol Daleithau!
Zulu movie version
Men of Harlech stop your dreaming
Can’t you see their spear points gleaming
See their warrior pennants streaming
To this battlefield
Men of Harlech stand ye steady
It cannot be ever said ye
For the battle were not ready
Welshmen never yield
From the hills rebounding
Let this song be sounding
Summon all at Cambria’s call
The mighty force surrounding
Men of Harlech on to glory
This will ever be your story
Keep these burning words before ye
Welshmen will not yield
Filed under: Official Stuff
